Mae Gareth Glyn, sy’n enedigol o Fachynlleth, yn gyfansoddwr llawn-amser sydd wedi byw yn Sir Fôn ers 1978. Mae’r ynys, drwy ei thirlun, hanes a chwedloniaeth, yn parhau i fod yn ddylanwad allweddol ar ei waith, fel ag y mae ei hunaniaeth Gymraeg.
Mae ei gannoedd o gyfansoddiadau yn cynnwys symffoni, consiertos, agorawdau a darnau cerddorfaol eraill. Mae’n cael ei gyfri’n un o brif gyfansoddwyr corawl Cymru, ac mae rhai o’i ganeuon unawdol, megis Llanrwst a Seithug, yn rhan o repertoire ein cantorion mwya blaenllaw. Cyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer nifer o ddramáu cerdd gan gynnwys Magdalen, 3-2-1 a Gwydion, a cafodd ei opera Wythnos yng Nghymru Fydd (a deithiodd drwy Gymru yn 2017) ei dyfarnu’r Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru 2018.