Croeso > Newyddion > Archif Newyddion 2011/19
Newyddion 2019
Medi
Mae'r gathl symffonig 'Gododdin' a'r consierto cynta i'r delyn ('Amaterasu'), efo Hannah Stone yn unawdydd penigamp, wedi ymddangos ar y CD newydd 'ma gan Heritage (HTGCD 181).
Diolch i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a'r arweinydd Gavin Sutherland.
Gorffennaf
Rhoddodd Côr Meibion Pendyrus y perfformiad cyhoeddus cynta o'r darn comisiwn 'Ffynhonnau' yn eu rhaglen yng Ngŵyl Fawr Aberteifi eleni - ac ennill y gystadleuaeth.
Gosodiad ydy'r darn o ddetholiad o'r gerdd hir gan Rhydwen Williams. Bydd y côr yn ei ganu eto yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, ar 10 Awst.
Mehefin
Ar ôl bwlch o ugain mlynedd ers y perfformiad cynta, cafodd Classy Classics, i leisiau unsain plant a cherddorfa broffesiynol, ei berfformio gan blant o ysgolion Birmingham gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, yn y Neuadd Ddinesig, Birmingham, ar 30 Mehefin.
Mai
Darn i organ heb organydd ydy 'Pendramwnwgl', darn comisiwn gan Ŵyl Morgannwg, sy'n cael ei 'berfformio' gan yr organ stryd Astrid sawl gwaith eleni gan ddechrau ar 18 Mai yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ac yna mewn sawl lleoliad dros y misoedd canlynol, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.
2018
Medi
Yn dilyn llwyddiant opera gynta Gareth, Wythnos yng Nghymru Fydd, mae'r gwaith wedi dechrau ar yr ail - addasiad o glasur Caradog Prichard Un Nos Ola Leuad, nofel a gafodd ei galw'r un Gymraeg orau'r ugeinfed ganrif. Y bwriad yw bod OPRA Cymru yn llwyfannu'r gwaith yn 2020. Bydd datblygiadau pellach i'w gweld yma!
11 Mehefin
Unwaith eto mae modd prynu dwy CD gyda darnau gan Gareth (Morluniau Môn ac Agorawd yr Wyddfa) arnyn nhw, albymau nad ydyn nhw wedi bod ar gael ers peth amser. Mae modd gwrando ar y darnau ar y wefan hon (ewch i Gwrando), a'u prynu nhw gan Presto Classical
24 Mai
Bu ymateb brwd i'r darn siambr newydd I'r Pedwar Gwynt yn nhaith ddiweddar Ensemble Cymru - dyma flas:
"Darn rhyfeddol o ddramatig...darn syfrdanol, llawn bywyd"
(Wales Arts Review)
"hydeiml ac yn gafael yn emosiynol...creadigaeth gwirioneddol hudolus a gododd i'r uchelfannau"
(Seen and Heard International)
23 Ebrill
Mae nifer fawr o sgoriau cerddorfaol, band a siambr gan Gareth bellach ar gael AM DDIM fel ffeiliau PDF!
Ewch i weld be sydd ar gael, ac i lawrlwytho. Llawer yn rhagor i ddod!
30 Mawrth
Cafodd darn newydd gan Gareth, Cytgerdd, ei berffomiadau cyntaf ar 6 Ebrill yn yr Ŵyl Delynau Ryngwladol yng Nghaernarfon.
Hwn oedd y darn prawf ar gyfer y telynorion mwyaf profiadol; cafodd ei gyfansoddi i nodi penblwydd y telynor Osian Ellis yn 90 oed.
29 Mawrth
Cyfansoddodd Gareth ddarn i naw offeryn, I'r Pedwar Gwynt, ar gyfer taith 15 mlwyddiant Ensemble Cymru ym Mai 2018, gyda pherfformiadau ar
- 4/5 (Chapter, Caerdydd),
- 6/5 (Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth),
- 7/5 (Neuadd Dwyfor, Pwllheli),
- 8/5 (Capel Gad, Cilcain),
- 10-12/5 (Venue Cymru, Llandudno),
- 12/5 (Ucheldre, Caergybi),
- 13/5 (Pontio, Bangor)
- 14/5 (Galeri, Caernarfon).
Mae'r pedwar symudiad yn portreadu gwyntoedd chwedloniaeth Groeg yr Henfyd - Notos, Ewros, Zephyros a Boreas.
27 Ionawr
Cafodd opera Gareth, Wythnos yng Nghymru Fydd, ei dyfarnu'r Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg yn seremoni Gwobrau Theatr Cymru 2018.
Yn ogystal, roedd wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori arall: Sain (sef cerddoriaeth) Gorau, Perfformiad Gyryw Gorau mewn Cynhyrchiad Opera (Robyn Lyn Evans) a Cynhyrchiad Teithiol Cymraeg Gorau.
2017
Tachwedd
Cafodd opera newydd Gareth, Wythnos yng Nghymru Fydd, ei pherfformiadau cyntaf erioed ar 10 ac 11 Tachwedd 2017 yng Nghanolfan Pontio, Bangor, cyn mynd ar daith i
- Rosllannerchrugog (14/11),
- Y Drenewydd (16/11),
- Aberystwyth (17/11),
- Y Barri (21/11),
- Abertawe (23/11)
- Phwllheli (25/11).
Mae'r libretto yn addasiad gan Mererid Hopwood o nofel eiconig Islwyn Ffowc Elis, gafodd ei cyhoeddi 60 mlynedd yn ôl. Mwy o fanylion am yr Opera yma.
Gorffennaf
Ar gael yn awr - CD o ganeuon tenor Gareth Glyn, gyda'r cantorion disglair Rhys Meirion, Elgan Llŷr Thomas a Rhodri Prys Jones a'r cyfeilydd blaenllaw Annette Bryn Parri.
Yn cynnwys ffefrynnau fel Llanrwst a Carol yr Alarch, a chyfle i fwynhau'r wefr o'r tri thenor yn cydganu yn ogystal! Medrwch gael rhagor o fanylion, a chyfle i archebu neu lawrlwytho
2015
Mawrth
Mae’r darn comisiwn cerddorfaol ‘Gododdin’, gafodd ei berfformio yng Ngwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, bellach ar gael i wrando arno.( odan Cerddrofa a Band)
Chwefror
Ers i’r darn comisiwn cerddorfaol ‘Gododdin’ dderbyn ei berfformiad cyntaf yng Ngwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn 2014, gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, mae bellach wedi cael ei ddarlledu dair gwaith ar wahanol adegau, ac ar wahanol orsafoedd o’r BBC – Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales.
2014
Medi
Derbyniodd gwaith comisiwn cerddorfaol diweddara Gareth, ‘Gododdin’, ei berfformiad cynta yng Ngwyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, Llanelwy, ar 27 Medi. Alexandre Bloch oedd yn arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
2013
Gorffennaf
Perfformiwyd gwaith Gareth i gerddorfa symffoni ac actorion, ‘Y Daith i’r Blaned Aflafar - The Mission of SPM-1’ yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC gerbron tair mil o blant o sawl rhan o Gymru a thu hwnt.
Mehefin
Mae Gareth wedi dechrau gweithio ar opera Gymraeg. Ei fwriad yw creu gwaith yn seiliedig ar un o nofelau pwysicaf yr ugeinfed ganrif yn yr iaith, ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ gan Islwyn Ffowc Elis. Dewch yn ôl yma i ddilyn y datblygiadau fel maen nhw’n digwydd.
Mai
Daeth cynulleidfa o filoedd i Sgwâr Trafalgar yn Llundain i gyngerdd awyr-agored gan Gerddorfa Symffoni Llundain dan arweiniad Valery Gergiev, lle’r perfformiwyd trefniant arbennig Gareth o’r ‘Symphonie Fantastique’ gan Berlioz.
2012
Gorffennaf
Gareth Glyn gafodd yr anrhydedd o gael ei wahodd i wneud trefniant arbennig o ‘Nimrod’ gan Elgar ar gyfer Seremoni Agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain ar 27 Gorffennaf, fel bod 80 o blant, rhwng 7 a 17 oed, yn medru perfformio ar y cyd ag aelodau o gerddorfa’r LSO gerbron cynulleidfa fyd-eang o dros biliwn o bobl.
2011
Gorffennaf 2011
Ar gael yn awr!
CD dwbl o weithiau cerddorfaol gan Gareth Glyn, gydag artistiaid gwesteiol
fel Jonathan Pryce, Dominic Seldis, Jane Watts a Philippe Schartz.