Croeso > Sgoriau PDF
Sgoriau PDF
Gallwch lawrlwytho’r sgoriau yma am ddim drwy glicio ar y ddolen.
Os am rannau offerynnol y gweithiau, cysylltwch â’r cyfansoddwr.
-
Dyfroedd Byw (Living Waters) - ensemble siambr - cyfres yn darlunio dyfroedd enwog Cymreig: Ffynnon Tudno, Afon Wysg, Llyn Safaddan a Chantre'r Gwaelod
In Memoriam Cruciatorum Infantum (Er Cof am Blant yr Artaith):
Mabinogi (siambr) - Pedwar mân-ddarlun o Lyfr Hergest: Pwyll, Branwen, Manawydan a Math
Morluniau Môn
Cyfres mewn arddull ysgafn am bump o draethau Môn - Llanddwyn, Malltraeth, Penmon, Cemaes a Moelfre:
Noson yn yr Opera (A Night at the Opera) - agorawd ysgafn i gerddorfa
Addolwn Ef (cadwyn o hen garolau Cymreig i fand pres)
Cariad (cadwyn o ganeuon gwerin serch Cymreig i gerddorfa)
Dinas Barhaus (Enduring City) (cathl symffonig ddathliadol)
Eryri (cathl symffonig):
Gododdin - cathl symffonig am frwydr Catraeth
Chwedl y Llyn
Cyfres yn seiliedig ar chwedl o Ynys Môn:
Llam Carw - agorawd i gerddorfa
Amaterasu - consierto i delyn, gyda thrombôn unawdol, yn seiliedig ar hen chwedl Siapaneaidd
Archwadan - monoddrama i lefarydd a cherddorfa siambr (i gynulleidfaoedd ifanc); hefyd ar gael yn Saesneg fel Ultraduck
Dirion Dir - cantawd am hanes Ynys Môn i unawdwyr SATB, corau o bob math, a band pres
Microncerto
Consierto cryno iawn (5 munud!):
Y Daith i'r Blaned Aflafar (The Mission of SPM-1) - gwaith dramatig i gynulleidfaoedd ifainc, yn galw am actorion, cerddorfa symffoni a chyfranogiad cynulleidfa
Wythnos yng Nghymru Fydd - opera (sgôr leisiol ar gael drwy gysylltu â'r cyfansoddwr)